Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gorffwysfa'r Crwydriaid

Erbyn yr 1890au roedd nifer y crwydriaid yn rhodio'r cefn gwlad wedi cynyddu'n fawr.

Yn 1894, penderfynodd Undeb Deddfau'r Tlodion Corwen adeiladu bloc llety ar gyfer trampiaid ar draws y ffordd o'r Wyrcws. (Mae hyn bellach yn storfa fwyd.)
Yn gyfnewid am fwyd a llety am noson mewn celloedd roedd yn rhaid i'r crwydriaid weithio, torri 3 chan pwys o gerrig yn ddarnau graddol bach i'w defnyddio ar y ffyrdd. Ar ôl iddynt wneud hyn fe'u hanfonwyd ar eu ffordd.
Ym 1903, oherwydd bygythiad o'r frech wen yn cael ei gludo gan drampiaid, ystyriodd Gwarcheidwaid y Wyrcws gynyddu faint o waith oedd ei angen i 4 can pwys o gerrig i'w malu. Y syniad oedd y byddai'n atal trampiaid rhag dod i Gorwen ond teimlwyd bod hyn yn disgwyl gormod o'r crwydriaid ac ni chafodd ei fabwysiadu.
Heddiw, bydd staff sy'n gweithio yn y siop fwyd yn cadarnhau presenoldeb ysbrydol yn yr adeilad. Nid yw'n lle i fod ar ôl iddi dywyllu!