
Caeodd y Wyrcws ym 1941 ac fe'i defnyddiwyd wedyn ar gyfer gweithgynhyrchu.
Fe'i rhoddwyd yn Rhestr Gradd 2 yn 1966, ond ni wnaeth hyn ei arbed rhag dadfeilio. Erbyn yr 1980au roedd mewn cyflwr gwael iawn ond fe'i arbedwyd rhag cael ei ddymchwel gan Ymddiriedolaeth Orissor a adnewyddodd yr adeilad. Un o'r ymddiriedolwyr oedd Frank Serpico, cyn heddwas o Efrog Newydd, a frwydrodd yn erbyn llygredd o fewn yr heddlu a gwnaed ei stori yn ffilm yn 1973 gyda Al Pacino.
Prynwyd yr adeilad gan ei berchnogion presennol ym 1989 ac fe'i hailenwyd yn Corwen Manor. Bellach mae'n weithdy crefft, siop manwerthu a chaffi, ac mae'n werth ymweld ag o.