Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Undeb Deddfau'r Tlodion

Roedd y Wyrcws yn cael ei redeg gan Undeb Deddfau'r Tlodion, a wnaed o 14 o blwyfi lleol, yn ardaloedd Corwen a Llangollen.

Roedd gan bob plwyf gynrychiolydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, a oedd yn gyfrifol am weinyddu'r Tloty a chyfarfod bob pythefnos.
Roedd y Meistr yn rheoli o dydd i ddydd a'i wraig oedd y Matron, yn gofalu am y cleifion yn adain ysbyty'r Wyrcws. Yn y blynyddoedd cynnar roedd ysgol yn y Tloty, ond yn ddiweddarach aeth y plant i'r ysgol genedlaethol leol yn y dref. Galwyd meddyg yn ôl yr angen ac roedd pobl leol yn darparu bwyd ac adloniant adeg Nadolig ar gyfer y trigolion. Roedd yn ofynnol i'r merched goginio, glanhau a golchi'r dillad, tra bod y dynion yn cael tasgau diraddiol y tu allan. Casglodd y plant goed tân a grug i wneud bara.