Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Trigolion Tloty Undeb Corwen

Trigolion Tloty Undeb Corwen

Ganwyd 79 o fechgyn a 75 o ferched yn y Tloty rhwng 1840 a 1880

Oni bai bod eu teuluoedd yn gallu darparu ar eu cyfer, byddent wedi aros yn y Wyrcws hyd nes eu bod yn 14 oed, pan fyddent yn cael eu prentisio i fusnesau lleol neu fynd i weini.
Yn ystod yr un cyfnod bu farw 283 o drigolion, gan gynnwys 67 o blant a 37 o bobl dros 83 mlwydd oed. Roedd yna corffdy yn yr iard yng nghefn yr adeilad lle byddent wedi cael eu rhoi nes bod trefniadau ar gyfer y claddu wedi'u gwneud. Weithiau daethai aelodau o'r teulu ymlaen a talu am gladdu yn fynwent leol y person marw. Fel arall, claddwyd y meirw mewn beddau'r tlodion yng nghornel chwith cefn mynwent Corwen dan y fan lle mae'r goeden fawr yn tyfu heddiw. Nid oedd unrhyw gerrig i gofnodi eu bodolaeth.