Mae teithwyr wedi stopio yng Nghorwen erioed
Mae adeilad Gwesty Owain Glyndŵr yn dafarn restredig Gradd 2 yng Nghorwen.
Credir bod yr adeilad gwreiddiol yn dyddio o 1329 ac roedd yn fynachlog ar dir yr eglwys gyfagos. Fe'i hailadeiladwyd neu ei newid ym 1740 ond mae wedi cadw elfennau o'r adeilad cynharach. Dyma safle'r Eisteddfod Gyhoeddus gyntaf ym 1789. Cafodd adeilad y gwesty ei ehangu gydag adain ychwanegol a'i ail-doi tua 1890.
Gelwid y dafarn yn New Inn yn ystod yr amser pan oedd yn fan aros i goets y post a choetsis mawr.
Dywedir bod ysbryd menyw ifanc, a gafodd berthynas â chlerigwr lleol a hynny wedi gwylltio'r bobl leol, yn cerdded y dafarn.
Gwesty'r Goron
Mae'r hen dafarn goets fawr hon yn dyddio'n bennaf o ddechrau'r 19eg ganrif, ac yn ôl pob tebyg yn ymgorffori rhannau o adeilad o 1628. Roedd yr ystafell hir yn y cefn unwaith yn dramwyfa i geffylau a choetsis gyrraedd y stablau y tu ôl i'r gwesty. Roedd yr adeilad tu allan a wyneba'r ffordd, gyda "Crown Hotel Garage" ar draws y blaen, gynt yn siopau. Fe'i trowyd yn garejys wrth i geir ddod yn fwy cyffredin yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Ym 1919 sefydlwyd Cwmni Adeiladu Coetsis Corwen yng Ngwesty'r Goron. Yn yr un flwyddyn defnyddiwyd y garej i werthu lluniaeth i bobl yn mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Gwesty'r Delyn yn dafarn restredig Gradd 2 yng Nghorwen
Efallai bod rhannau hynaf y dafarn hon, a elwid unwaith yn Werglodd, yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, neu'n gynharach. Mae'r cofnodion cynharaf ohoni yn dyddio o 1629. Ar y pryd roedd Werglodd yn gasgliad o adeiladau ac yn rhan o ystad y brenihinwr brwd William Salisbury. Byddai'r porthmyn yn yfed yma wrth symud anifeiliaid o borfeydd Cymru i farchnadoedd Lloegr. Ym 1896, galwodd gyrrwr moch o'r enw Samuel Davies, yn y Delyn am ginio ar ddiwrnod ffair. Tagodd ar ddarn o gig ac roedd wedi marw o fewn munudau. Ni allai meddygon ei adfywio.
Gwerthwyd y Delyn, gyda'i stablau a iard, i Mr J Roberts am £1,300 ym 1895. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif fe'i prynwyd gan fragdy Ind Coope. Ym 1914, talodd y cyngor lleol rent o £ 1 10s i'r tafarnwr am storio y cart dŵr lleol.


