
Rydych chi'n sefyll o flaen cerflun Owain Glyndŵr, Tywysog olaf Cymru.
Codwyd y cerflun efydd llawn maint yn 2007. Mae'n 4.5m o uchder ac mae'n pwyso ychydig o dan dunnell. Mae'r plinth 8 tunnell o farmor wedi'i lathru o Chwarel Trefor, Pwllheli. Costiodd y cerflun £125,000.
Cymerodd y cerflun dros 4 blynedd i'w wneud a dangosir Owain Glyndŵr yn eistedd ar farch rhyfel. Y cerflunydd oedd Colin Spotforth o Gaer, a dreuliodd fisoedd yn ymchwilio i stori Owain Glyndŵr ac a ddywedodd wrth Newyddion BBC, "Nid yn unig oedd o'n ddyn a ysgogwyd gan ei ymdeimlad o annibyniaeth a balchder cenedlaethol, ond hefyd roedd yn academydd, yn fonheddwr a rhyfelwr dewr. Mae'n ŵr a roddodd bopeth er mwyn ei genedl." Roedd Colin Spotforth eisiau i hyn oll ymddangos yn ei greadigaeth.