Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ein Arwr Lleol

Ein Arwr Lleol

Owain Glyndŵr oedd Arglwydd Glyndyfrdwy ac roedd yn berchen ar y tir o gwmpas Corwen.

Roedd ei Neuadd i'r Dwyrain o Fwnt a welir hyd heddiw o'r enw Mwnt Owain Glyndŵr. Roedd y Neuadd wedi'i hamgylchynu gan ffos i'w diogelu ac yn edrych dros Afon Dyfrdwy, a fyddai wedi cyflenwi'r holl ddŵr ar gyfer anghenion y teulu a'r osgordd. Roedd hefyd yn berchen ar Neuadd yn Sycharth ar draws y Berwyn o Glyndyfrdwy a theithiai'n rheolaidd rhwng y ddau le. Yn aml roedd Iolo Goch, y Bardd, yn cael lletygarwch gan y teulu ac ysgrifennodd gerddi yn canu eu clodydd a'u heiddo.
Yng Nglyndyfrdwy y cyhoeddwyd Glyndŵr yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400. Yn 1403 dinistriwyd y Neuaddau yng Nglyndyfrdwy a Sycharth gan y Tywysog Harri, mab Harri IV o Loegr, i ddial am wrthryfel Glyndŵr a'i ddilynwyr. Cafodd y tiroedd o gwmpas Corwen eu difrodi a lladdwyd llawer o'r trigolion lleol.