Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Owain Glyndŵr Tywysog Cymru

Owain Glyndŵr Tywysog Cymru

Clod i Owain Glyndŵr gan y bardd Iolo Goch

Gorau Cymro tro trylew
Biau'r wlad, lin Bywer Lew,
Gŵr meingryf, gorau mangre,
A phiau'r llys; hoff yw'r lle.

The best of Welshmen, valiant man,
Lord of the land, of Pywer Llew's line,
A slim strong man, to him the court belongs,
That best of places, worthy to be praised.

Fel dyn ifanc, anfonwyd Owain Glyndŵr fel yswain i'r Arglwydd Arundel yng Nghastell y Waun, lle byddai wedi dysgu sut i ymladd.

Yna aeth ymlaen i astudio'r gyfraith yn Neuaddau'r Frawdlys yn Llundain. Dychwelodd i Gymru yn 1383, priodi Margaret Hanmer, dechrau teulu mawr ac ymgartrefu fel Arglwydd Glyndyfrdwy.
Yn 1384 dechreuodd wasanaeth milwrol gyda'r Brenin Richard II, gan ennill tair blynedd o brofiad yn y frwydr. Yna dychwelodd i fywyd tawel yng Nghymru.
Fodd bynnag, newidiodd hyn oll pan ddatganodd Henry Bolingbroke ei hun yn Frenin Lloegr, wedi iddo gipio a charcharu Richard II. Roedd Arglwydd Grey o Ruthun yn un o ddilynwyr ffyddlon Harri. Dechreuodd anghydfod gyda Glyndŵr dros dir ac yna cyhoeddi ei fod yn fradwr, a'r gosb fyddai marwolaeth.
Roedd yna aflonyddu mawr yng Nghymru eisoes a daeth dynion i gefnogi Glyndŵr. Dyna gychwyn gwrthryfel Cymru gydag Owain yn ei arwain, wedi iddo gael ei ddatgan yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ar 16 Medi, 1400.