Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cyffordd Rheilffordd

Gwrando

Mae Jim Ritchie, gwirfoddolwr rheilffordd ers dros 15 mlynedd, yn sôn am y rheilffyrdd yng Nghorwen.

Y rheilffordd gyntaf i gyrraedd Corwen oedd Rheilffordd Dinbych Rhuthun a Chorwen ym mis Medi 1864.

Ar y 1af o Fedi 1864 adroddodd 'Baner ac Amserau Cymru':
"Cynhaliwyd y daith gyntaf erioed ar rheilffordd o Gorwen dair wythnos cyn ei agor pan gychwynnodd tua 800 o bobl o'r ardal ar y daith ddiwrnod bwysig honno i'r Rhyl ".

Parhaodd yr adroddiad:
''Nid oedd y mwyafrif o'r teithwyr erioed wedi gweld rheilffordd heb sôn am brofi teithio ar drên.''

Yr wythnos ganlynol, dywedodd yr un papur newydd:
''Daeth ymweliad o'r Rhyl a Dinbych ddydd Iau, 29 Medi, â llawer o bobl i Gorwen. Roedd y diwrnod yn hyfryd iawn ac roedd y teithwyr, oedd yn dymuno treiddio ymhellach i'r wlad, wedi llogi cerbydau, bysiau ac ati yn y dref yn gyflym i fynd am y Bala a Llangollen, tra bod eraill yn manteisio ar y teithiau cerdded hyfryd i fyny'r Berwyn, ac ar hyd Afon Dyfrdwy. Darparwyd ciniawau helaeth yn y gwahanol westai a thafarndai yn y dref."

Caewyd Gorsaf Corwen ar 14 Rhagfyr 1964.