Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gorsaf Corwen

Gorsaf Corwen

Gorsaf Corwen Llun o Gasgliad Lens o Sutton

Agorwyd yr Orsaf GWR ar 11 Hydref 1865 a bu'n agored am dros 99 mlynedd. Argymhellwyd cau'r brif linell o Rhiwabon i Abermaw, trwy Gorwen, yn Adroddiad Beeching o 1963 a chafodd yr orsaf ei chau ym mis Rhagfyr 1964.
Yn 1978 cliriwyd y safle ar gyfer canolfan werthu Ifor Williams Trailers sy'n cyflenwi trelars yn y DU, Ewrop a ledled y byd.