Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Llinell Amser

Mae'r cyfeiriadau at weithio calch yn Chwarel Y Mwynglawdd yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, ond dechreuodd echdynnu ar raddfa fawr yng nghanol y 19eg ganrif, ar ôl sefydlu Cwmni Gwaith Calch Y Mwynglawdd.

1852 Cloddiodd Cwmni Gwaith Clach Y Mwynglawdd i'r de o'r nant sy'n rhannu'r chwarel, yr Aber Sychnant.

1857 Cloddiodd Lester ar yr ochr ogleddol ond ar raddfa lai.

1867 Prynwyd locomotif stêm, Minera, ar gyfer symud deunyddiau crai yn y chwarel.

1868 Adeiladwyd yr Odyn Hoffman cyntaf.

1874 Adeiladwyd yr 2il odyn ond roedd tua hanner y maint gyda dim ond 12 siambr.

1929 Gosodwyd odynau nwy a daeth gwaith yr Hoffman i ben.

1954 Adam Lythgoe. Defnyddio calch daear mewn amaethyddiaeth. Nid oes angen llosgi felly nid oedd defnydd i'r odynau.

1967 Tarmac yn cynhyrchu agregau ffordd.

1993 Daeth y chwarela i ben.

2005 Ffurfio Ymddiriedolaeth Chwarel Y Mwynglawdd

2017 Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn sicrhau'r safle fel gwarchodfa natur.