Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Odynau Hoffman

Roedd gan Chwarel Y Mwynglawdd ddwy odyn Hoffman.

Roedd y rhain yn disodli'r odynau tynnu fertigol cynharach ac yn caniatáu llosgi calch yn barhaus. Roedd Y Mwynglawdd yn eithaf blaengar oherwydd patentwyd y dyluniad hwn gan yr Almaenwr Friedrich Hoffmann ar gyfer gwneud brics ym 1858.
Roedd gan y cyntaf, a adeiladwyd ym 1868, 24 siambr a simnai 225 troedfedd. Adeiladwyd yr 2il odyn ym 1874 ond roedd tua hanner y maint gyda dim ond 12 siambr. Defnyddiwyd y ddwy odyn tan 1954 pan nad oedd y cwmni a gymerodd drosodd y gwaith mo'u hangen mwyach.
Mae'r odyn lai wedi diflannu, wedi'i chladdu o bosibl yn ystod tirlunio ac addasiadau i'r chwarel. Mae'r odyn fwyaf yn aros ond mae wedi hanner ei chladdu. Mae'r simnai wedi hen ddiflannu ond gellir gweld tua hanner y mynedfeydd. Roedd gan bob siambr ei fynedfa ei hun. Mae'r rhain bellach wedi'u blocio i atal mynediad oherwydd clwydfannau ystlumod.