Mae coedwigoedd hynafol Plas Power yn bwysig i fywyd gwyllt.
Gall blodau gwyllt fel blodyn y gwynt, briwydd bêr, clychau'r gog a marddanhadlen felen, sydd i gyd yn ddangosyddion bod y coetir wedi bod yma ers amser maith iawn, ffynnu unwaith eto o dan ganopi ysgafnach y llydanddail. Mae hen fonion coed wedi'u gorchuddio â mwsogl a rhedyn yn ychwanegu cymeriad i'r coed ac yn darparu cartrefi defnyddiol ar gyfer creaduriaid bychain.
Prynodd Ymddiriedolaeth y Coetiroedd goedydd Plas Power a Melin Nant o'r ystâd ym 1988 gyda'r nod o'u hadfer yn ôl i goetir lled-naturiol. Nid yw siâp y coetir wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd ond roedd wedi cael yr enw Coed Duon yn lleol oherwydd y conwydd tywyll, bygythiol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn raddol yn tynnu llawer o'r coed conwydd hyn a'r rhododendron, ynghyd â rhywfaint o'r ffawydd a'r sycamorwydd. Anogir aildyfiant naturiol coed a llwyni brodorol megis derw, ynn neu griafol a fydd yn helpu'r coed i gael teimlad mwy naturiol.
Heddiw mae'r coedwigoedd yn ddigynnwrf ond byth yn dawel wrth i'r afon ddisgyn yn swnllyd dros y creigiau. Yn y gwanwyn mae canopi’r coed yn llawn o gân yr adar ac os ydych yn lwcus efallai y byddwch yn clywed cnocell y coed yn curo. Yn yr haf mae adar ac anifeiliaid yn brysur yn bwydo eu rhai bach tra bod gloÿnnod byw yn mwynhau cynhesrwydd y llennyrch heulog. Yr hydref yw'r amser pan mae ffyngau dirgel yn fwyaf tebygol o ymddangos ac mae arogl priddlyd hyfryd i'r coed. Y gaeaf yw'r amser tawelaf ar gyfer bywyd gwyllt ond yn fuan daw'r egin gwyrdd a'r gwyddau bach i'r amlwg, gan nodi dychweliad y gwanwyn.




