Adeiladwyd Clawdd Offa tua 785 OC o dan orchmynion Offa, Brenin Mersia.
Mae Clawdd Offa yn ffos enfawr ac yn rhagfur hyd at 8 metr o uchder, yn dilyn ffin Cymru a Lloegr yn fras. Er ei fod wedi'i adeiladu'n ofalus gyda'r ffos ar ochr Cymru a golygfeydd clir o'r arglawdd ar ochr Lloegr, ni wyddys a oedd yn strwythur amddiffynnol neu'n ddim ond yn arwydd terfyn.
Mae'r rhan hon o'r Clawdd yn arbennig o drawiadol er tan yn ddiweddar, pan dorrwyd rhai o'r coed o gwmpas, roedd yn eithaf hawdd cerdded heibio a pheidio â sylwi arno.
Cadwch lygad am gerflun Offa, a gerfiwyd gan Simon O'Rourke yn 2012.

