Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffowndri'r Canon

Ffowndri'r Canon

Wedi'i adeiladu tua 1773, o bosib, yr adeilad unigryw hwn yw'r unig un o'i fath ar ôl yn y byd.

Sylwch ar y coed solet yn y to, roedd pwlïau ynghlwm wrthynt i dynnu mowldiau'r baril canon i fyny. Mae'r trawstiau trwm hyn bellach yn effeithio ar hen waliau'r ffowndri, a dyna'r angen am y sgaffaldiau.
Wedi'i adeiladu mewn siâp wythonglog, roedd yn galluogi i 4 ffwrnais “aer” unigol gael eu hadeiladu o amgylch ei gylchyn. Yna roedd y rhain yn cael eu “tapio” ar yr un pryd i ddarparu'r swm enfawr o Haearn oedd ei angen i gastio barilau canon mawr Y Bers.
Roedd angen sgiliau anghyffredin ar y prif “ddyn ffowndri”. Gan ddefnyddio dim ond ei lygaid roedd angen iddo farnu union dymheredd yr haearn ym mhob ffwrnais trwy wirio ei “liw” cyn iddo ei dywallt i'r mowldiau. Gallai ffrwydrad difrifol ddigwydd yn peryglu bywydau, pe bai'n gwneud hyn yn anghywir.
Y gynnau mwyaf a wnaed yn Bersham oedd rhai 32 pwys, mae'r barilau canon hyn bron i 3 metr o hyd ac yn pwyso tua 3 tunnell (trymach na'n ceir modern ni).