Yn swatio yng nghefn adeilad Melin Y Bers mae'r Ffwrnais Chwyth gyntaf yng Nghymru.
Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru yma yn Y Bers, yna symud i Dde Cymru oherwydd ansawdd gwell y glo a'r haearn a'r hwylustod i gyrraedd y Môr. Mae Cymru yn cael ei hystyried fel CENEDL DDIWYDIANNOL GYNTAF y byd.
Yn 1721 llwyddodd y Meistr Haearn Charles Lloyd, cyd-Grynwr a ffrind i Abraham Darby, i ddefnyddio golosg (glo wedi'i rostio) i fwyndoddi haearn yma yn Y Bers. Roedd Darby wedi gwneud hyn am y tro cyntaf ym 1709 yn Coalbrookdale (Ironbridge) gan gychwyn y Chwyldro Diwydiannol.
I wneud 1 tunnell o Haearn bydd angen;
5 tunnell o olosg (Glo Rhost)
3 tunnell o Haearnfaen (Mwyn Haearn)
1 tunnell o Galchfaen (sy'n gweithredu fel TODDYDD i ddenu'r amhureddau o'r haearnfaen a'r golosg)
Mae'r mwynau hyn yn cael eu llwytho y tu mewn i ffwrnais ac mae aer yn cael ei CHWYTHU i mewn yn y gwaelod i greu tymhereddau sy'n fwy na 11,000 gradd Celsius sy'n tynnu'r haearn o'r mwyn.

