Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cefndryd yng Nghanada

Roedd gan John, brawd Samuel Evans, fferm yn Fron, ychydig i fyny'r ffordd, ac ymfudodd ef a'i deulu i Ganada ym 1911.

Mae ei ŵyr, Dennis Evans, yn dod draw i Goedpoeth yn rheolaidd, ac anfonodd atom atgofion ei fodryb Winnifred, a Florence Jones (g. Evans) a fagwyd yn Melin Nant.
Roedd llawer o waith hyd yn oed i'r plant, a helpai i gorddi'r menyn, gofalu am yr ardd lysiau fawr a gofalu am geffylau'r fferm.
Y stabl oedd lle mae'r toiledau heddiw.
Roedd Winnifred yn cofio gwylio o’r Wynnstay Arms pan ddeuai'r ffair i Wrecsam: “Yr atyniad mawr oedd yr injans tân gyda’u clychau'n canu, yn cael eu tynnu gan y ceffylau gorau y gellid eu cael.”