
Ceinwen 
Ceinwen 
Ei merch Gillian Clarke 
Mr Evans a'i gert llaeth
Mae'r lluniau rhamantus hyn yn dangos Ceinwen (merch ganol o bum merch Samuel).
Dywed ei merch, Gillian Clarke: 'Peiriannydd â gofal o Ddarlledu Allanol BBC oedd fy nhad. Lletyodd yn Melin Nant yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Coedpoeth, ym 1933, a chwrdd â fy mam. Tynnodd y lluniau hyn bryd hynny.'
Gillian oedd Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-16, ac fe wnaeth y llun o Mr Evans ysbrydoli cerdd Gillian 'Taid', sy'n ymddangos yn ei llyfr 'Ice'. Mae'n cynnwys sawl cerdd am y fferm a'r teulu, ac mae Gillian yn garedig iawn yn gadael inni eu hatgynhyrchu.