Adeiladwyd Melin Puleston gan Piers Puleston tua 1580.
Roedd yn cael ei phweru gan ddŵr o Afon Clywedog ac roedd yn gystadleuaeth i Felin y Brenin. Roedd y ddwy felin yn rhannu'r un rhod ddŵr ond am fod Melin Puleston yn cymryd y dŵr yn gyntaf fe allai gyfyngu ar lif y dŵr i Felin y Brenin.
Daeth y gystadleuaeth i ben ym 1769 pan ailadeiladodd Philip Yorke Felin y Brenin a phrynu Melin Puleston, a'i newid ar gyfer gwaith fferm.
Tyfodd pentref o amgylch y felin ac yno fythynnod, siop a thafarn. Heddiw dim ond un bwthyn sydd ar ôl a'r ysgubor bren a roddwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'i dwyn yma ym 1977.

