Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ystâd Erddig

Roedd Plas Erddig yn gartref i deulu Yorke am 240 mlynedd.

Pan drosglwyddwyd y tŷ i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1973 mynnodd Philip Yorke na ddylid symud unrhyw beth o'r tŷ ac felly mae yno gasgliad enfawr o wrthrychau, rhai bob dydd a phrin.

Roedd gan deulu Yorke barch mawr at eu gweision ac felly mae cofnod manwl o'r bobl a oedd yn byw ac yn gweithio ar yr ystâd.

Mae'r ardd â mur o'i chwmpas yn un o'r gerddi ffurfiol pwysicaf y 18fed ganrif sydd wedi goroesi ym Mhrydain tra cynlluniwyd y dirwedd gan William Emes, un o brif gynllunwyr yr oes.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth