Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bunker's Hill

Mae'n debyg mai bythynnod Bunkers Hill oedd bythynnod gweithwyr hynaf Cymru

Roedd Bunkers Hill yn rhes o ddeg bwthyn gwyngalchog llachar wedi'u lleoli mewn safle uchel yn edrych dros Y Ddol. Roedd bythynnod Bunkers Hill yn gyswllt â chyfnod mwyaf Gwaith Haearn Y Bers. Mae'n debyg mai'r bythynnod oedd y bythynnod gweithwyr hynaf yng Nghymru ac fe'u henwyd ar ôl y cyntaf, ac un o frwydrau pwysicaf Rhyfel Annibyniaeth America. Mae'n siwr i ganonau Wilkinson wneud eu ffordd yno. Dywedwyd nad oedd ots ganddo i bwy roedd o'n gwerthu ei arfau. Wrth gwrs, adeiladwyd y bythynnod yn syml heb unrhyw un o'r cyfleusterau y byddem yn eu cysylltu â bywyd modern. Efallai mai dyna pam ym 1968 y gosododd Cyngor Dosbarth Gwledig Wrecsam orchymyn clirio ar y bythynnod gan nodi eu bod yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Arweiniodd hyn at Ymchwiliad Cyhoeddus. I dorri stori hir yn fyr cytunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda'r cyngor lleol a phenderfynu y dylid gwacau'r bythynnod a'u dymchwel. Roedd y diwedd yn broses hirfaith gyda llawer tro yn y stori, ond trist dweud bod y bythynnod wedi'u dymchwel o'r diwedd yn y 1990au.