Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Melinau'r Cwm

Roedd Cwm Clywedog yn ganolog i'r Chwyldro Diwydiannol.

Roedd gorlifdiroedd ffrwythlon Clywedog bob amser wedi darparu porfa ac ŷd cyfoethog. Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol ddenu mwy o bobl i'r ardal i weithio yn y pyllau glo, mwyngloddiau plwm, chwareli calchfaen, gwaith haearn a gwaith mwyndoddi, tyfodd y galw am fwyd. Yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr afon sy'n llifo'n gyflym yn pweru 18 melin ar ei hyd wrth i felinau newydd gael eu hagor ac i ardaloedd o goetir gael eu clirio ar gyfer tyfu cnydau. Agorodd o leiaf bum melin ŷd i ateb y galw am fwyd, a'r mwyaf adnabyddus oedd Melin Nant.

Ar un adeg roedd pentref Y Bers yn cynnwys tair melin bapur; roedd Bunker's Hill yn edrych dros Melin y Bers, Melin Esclusham a Melin Esless ger Plas Esless yn Esclusham. O bosib y felin enwocaf yw Melin Esclusham, sy'n fwy adnabyddus fel Melin Twrci sy'n dyddio'n ôl i'r Adferiad. Roedd y Felin yn arbenigo mewn cynhyrchu arian papur a phapurau sieciau o bob math ac o'r ansawdd gorau wedi'u gwneud â llaw. Yn wir daeth y felin yn enwog am gynhyrchu arian papur ac roedd yn gontractwr i Llyfrfa'r Llywodraeth. Cwsmeriaid eraill oedd llywodraethau a banciau trefedigaethol yn ogystal â chwmnïau papur eraill.

Ychydig iawn o dystiolaeth weladwy sydd o'r melinau heddiw heblaw Laurel Grove, tŷ perchennog y felin yn Y Ddol sydd yn union gyferbyn â Melin Twrci.

Melinau'r Cwm

Map yr Arolwg Ordnans o Bersham, 2il argraffiad, 1900 yn dangos Bersham ar gyffordd ffordd Bersham (B5099) a Berse Road (B4095), Pont Bersham dros Afon Clywedog, Bunkers Hill, Turkey Mills, Laurel Grove, ras felin, coredau, Esless Hall a melin bapur Esless.