Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Castell Diserth

Dechreuodd y Brenin Harri III y castell yn 1241 neu 1245

Castell Diserth

Fe'i hadeiladwyd ar raddfa fawr; dywed haneswyr fod ganddo lawer yn gyffredin â chastell Conwy y Brenin Edward a adeiladwyd rhwng 1283 a 1287.

Ond safle uchel y castell oedd ei wendid hefyd. Roedd wedi'i ynysu oddi wrth unrhyw ddyfroedd mordwyol ac nid oedd yn hawdd lleddfu ei garsiwn pan oedd dan ymosodiad. Ymosodwyd arno ym 1263 gan Llywelyn ap Gruffydd (Llywelyn ein Llyw Olaf) ac yn dilyn gwarchae chwe wythnos dinistriwyd y castell.

Arhosodd rhai adfeilion nes iddynt gael eu cloddio ymaith yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Heddiw, nid oes bron dim ar ôl o'r castell heblaw am amddiffynfeydd clawdd a ffos y gward allanol.

Castell Diserth

Argraff arlunydd o Gastell Diserth gan William Smutts, wedi'i seilio (gyda chaniatâd) ar gynllun gan John Northall o wefan Cestyll Cymru.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth gan Dyserth.com

Tapiwch yma ar gyfer gwefan Cestyll Cymru