Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Siambr Wen

Olion maenordy canoloesol

Credid mai hwn oedd cartref Syr Robert Poundeling, a oedd ar un adeg yn gwnstabl Castell Diserth. Efallai y cewch gipolwg arno o Lôn y Pandy neu o rodfa Dyserth-Prestatyn.

Wedi tyfu'n wyllt iawn, mae'r gweddillion ar dir preifat heb fynediad cyhoeddus. Cwympodd y bwa a ddangosir yn un o'r lluniau flynyddoedd lawer yn ôl.

Ymwelodd Thomas Pennant â Siambr Wen yn y 1770au yn ystod ei daith o amgylch Cymru a dywedodd am y safle: -

“Mewn cae ychydig i’r de o’r castell, mae adeilad adfeiliedig, o’r enw Siambr Wen. Dywedir mai hon oedd sedd Syr Robert Pounderling, a oedd unwaith yn gwnstabl y castell cyfagos, marchog nerthol a darbodus, y bwriwyd un o'i lygaid allan gan ŵr bonheddig o Gymru, yn y gamp arw o dwrnameint; ond, wrth gwrdd â’n cydwladwr yn llys Lloegr, a wrthododd yr her i'w frwydro eto mewn gornest arfog, gan ddatgan nad oedd yn bwriadu i’r Cymro fwrw ei lygad arall allan ”.

Siambr Wen

Tarian Syr Robert Pounderling