Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffrwydrad yn y Chwarel - Ysgol Hiraddug

"Dihangfa wyrthiol wrth i glogfeini ddisgyn ar yr ysgol"

Dyna oedd un o'r penawdau llai syfrdanol yn y papurau newydd yn dilyn ffrwydrad enfawr yn Chwarel Diserth ddydd Gwener 11eg Chwefror 1972 a effeithiodd ar Ysgol Hiraddug yn Thomas Avenue.
Roedd 270 o blant yn yr ysgol ar y pryd ac wedi cael dihangfa wyrthiol pan chwalwyd ffenestri a syrthiodd cerrig mawrion drwy do neuadd yr ysgol. Yn dilyn y ffrwydrad, gwasgarwyd creigiau a chlogfeini ledled safle'r ysgol gan gynnwys y maes chwarae a chae'r ysgol; yn rhyfeddol dim ond 4 o blant a anafwyd.
Yn ôl un papur newydd, cafodd tai a cheir dros ardal eang eu taro gan greigiau; fflatiwyd to tacsi gan glogfaen a chafodd bonet car arall ei falu. Dywedodd ugeiniau o ddeiliaid tai fod ffenestri wedi eu chwalu, toeau wedi'u toclio, a gerddi a lawntiau wedi'u difrodi.
Roedd Mrs Wenna Williams yn Bennaeth Babanod ar adeg y ffrwydrad a dyma ei chyfrif o'r digwyddiad.

Gwrando

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth