Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Yr Odynau Calch

Mae olion pum odyn galch ar hyd Ffordd Ucha'r Foel

Ond dim ond pedair ohonyn nhw sy'n weladwy. Mae dwy fawr - Rhif 2 a Rhif 4 wedi'u rhestru ar Radd II. Rhif 2 yw'r un gyda'r panel gwybodaeth a godwyd gan Grŵp Amgylcheddol Diserth.
Yn gyffredinol, roedd odynau calch hŷn yn yr ardal wedi'u gosod yn ochr Moel Hiraddug fel bod modd bwydo deunydd o'r top. Roedd calchfaen o'r chwarel yn cael ei bentyrru mewn haenau bob yn ail â thanwydd fel glo o ansawdd isel a'i danio trwy danio pren wrth y fynedfa waelod. Roedd tymereddau uchel yn newid y garreg galch yn galch brwd a fyddai'n cael ei gribinio allan wrth droed yr odyn a gallai gael ei taenellu â dŵr i gynhyrchu calch tawdd. Roedd llawer o ddefnydd i hwn, gan gynnwys gwasgaru ar gaeau i wellha pridd ac yn y diwydiant adeiladu i gynhyrchu morter calch.

Yr Odynau Calch

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth