Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffynnon min y ffordd

Drws anarferol mewn wal

Ar ochr ddwyreiniol Ffordd Gallt Melyd, mae wal gerrig gyda'r hyn sy'n ymddangos fel drws bach. Dywed rhai mai mynedfa i'r hen fwyngloddiau ydyw. Ond mae'n un o sawl hen ffynnon a gyflenwai ddŵr i'r pentref, ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Roedd y drws yn llawer talach yn wreiddiol, ond codwyd lefel y ffordd sawl blwyddyn yn ôl.