Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Plas Diserth

Mae Plas-yn-Diserth yn adeilad rhestredig Gradd 2 *. Dim mynediad cyhoeddus.

Wedi'i restru am fod yn dŷ cain yn tarddu o'r 16eg ganrif, wedi'i newid yn sylweddol yn y 18fed ganrif ac yn cadw ei gymeriad naturiol. Fe'i gelwid gynt yn Plâs-yn-Dyserth ac fe'i hadeiladwyd gan y teulu Hughes, tirfeddianwyr pwysicaf yr ardal ar y pryd. Yn 1705 aeth y tŷ i ystâd Plymouth, fel tŷ fferm fawr. Yn ddiweddarach roedd yn ystâd y Gwir Anrhydeddus Robert Henry Clive (ŵyr Clive o India) ac ym 1839 cofnodwyd y tŷ a'r fferm fel tenantiaeth Pierce J Parry.
Daeth y tŷ ynghlwm wrth swydd capten y pwll yn mwyngloddiau Talargoch a Thŷ Injan Clive nes i'r mwynglawdd gau ym 1884.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth