Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Pentref

Mae gwreiddiau Diserth yn y pentref isaf

Soniwyd am Diserth, ac eglwys, yn llyfr Domesday yn 1086. Mae'r eglwys wreiddiol (bren mae'n debyg) wedi diflannu ers amser maith ond mae rhannau o strwythur yr eglwys bresennol yn dyddio o'r 13eg ganrif. Dechreuodd y pentref hynafol yn yr ardal o amgylch yr eglwys a'r rhaeadr ac ymledodd yn raddol i fyny'r bryn, lle mae'r Stryd Fawr heddiw.
Roedd sawl siop yn Niserth Isaf, dwy dafarn a thri chapel, yn ogystal ag eglwys Santes Ffraid. Yn y 1800au a dechrau'r 1900au roedd y rhaeadr yn atyniad poblogaidd i dwristiaid. Mae'r siopau i gyd wedi mynd, mae'r capeli wedi cau, ond mae'r tafarndai, Caffi'r Rhaeadr a'r eglwys yn dal mewn busnes.

Tapiwch yma i gael mwy o hen luniau