Carreg fedd i gi annwyl
Gyferbyn â maes parcio'r New Inn, i'r dde o'r is-orsaf drydan fach a wnaed o frics, ar lan yr afon, mae carreg unionsyth fach, bron wedi'i chuddio gan goeden.
Mae hon yn nodi bedd ci oedd yn eiddo i'r Parchedig John Owen, ficer yr eglwys, a fu farw ym 1908. Mae'r arysgrif, sy'n wynebu'r afon, bellach yn anodd iawn ei ddarllen ond dywed: -
Blame not the tribute of a passing tear.
Here lies poor Addy to us all so dear.
Of dogs the noblest, gentlest and the best.
Gone now forever to his last long rest.

