

Cefn yr adeilad gyda'r arysgrifau wedi'u nodi 

Yr un adeilad ar ddechrau'r 20fed ganrif 
Yn 2006
Cartref Gofal yr Old Manor, a elwid gynt Yr Hen Ficerdy
Ailadeiladwyd ym 1799 ar safle'r hen dŷ o'r enw Plas yr Escob. Gradd 2 wedi'i restru.
Eiddo preifat ydyw ond mae cerrig arysgrif wedi'u gor-baentio'n drwm mewn wal gefn sy'n nodi bod yr Esgob Hughes o Lanelwy, a oedd hefyd yn Archddiacon, wedi adeiladu ei blasty yma ym 1584. Fe'i defnyddiwyd ar un adeg fel Palas yr Esgobion ar gyfer Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Roedd yr Esgob William Morgan, a ddangosir uchod, cyfieithydd cyntaf y Beibl Cymraeg ym 1588, yn byw yma rhwng tua 1600 a 1604. Roedd yr Esgob Richard Parry yn breswylydd arall ac ailedrychodd ar waith Morgan yn 1621 i'w alluogi i gydymffurfio â Beibl newydd y Brenin Iago.
Mae'r arysgrif hefyd yn sôn am yr Esgob Lewis Bagot yn ailadeiladu'r tŷ ym 1799 ac ychwanegiadau gan y Ficer George Strong ym 1824.