Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwersyll Gwyliau Glannau Mersi

Sefydlwyd y Gwersyll ym 1909 gan Mr Arthur H. Lee a oedd â Gwaith Tapestri yn Stanley Road, Penbedw. Caeodd y ffatri ym 1970.

Prif amcan y gwersyll oedd darparu gwyliau i'w weithwyr ac i blant tlotaf Penbedw a'r ardal.

Y rhai cyntaf a gyrhaeddodd y gwersyll newydd oedd 100 o fechgyn o Lannau Mersi a ddaeth yno ddydd Gwener 9 Gorffennaf 1909.

Am nifer o flynyddoedd defnyddiwyd y gwersyll hefyd gan Liverpool City Mission. Caeodd ym 1984 ar ôl darparu gwyliau i blant am 75 oed.

Erbyn hyn mae Cyrchfan Rhaeadr Diserth ar y safle, Gwesty a Chlwb Gwledig Graig Park gynt. Y bwriad yw ailagor yn 2021 ar ôl ailwampio mawr; o bosib gydag enw newydd.

Dilynwch y ddolen isod i weld ffilm fer o Liverpool City Mission yn dangos plant yn cyrraedd y gwersyll ac yn llenwi eu matresi gwellt.

Tapiwch yma am y fideo

Tapiwch yma ar gyfer Liverpool City Mission