Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Plas Bodrhyddan

Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac wedi bod yn gartref i'r Arglwydd Langford a'i deulu ers dros 500 mlynedd. Wedi'i leoli mewn sawl erw o erddi ffurfiol trawiadol a choetir wedi'i adfer, mae'r tŷ yn un o'r ychydig blastai yng Nghymru sydd dal yn eiddo i'r teulu ac mae'n un o leoliadau priodas mwyaf unigryw Gogledd Cymru.

Mae'r plas i raddau helaeth o ddyluniad o'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau Fictoraidd nodedig ac mae'n cynnwys casgliad hanesyddol helaeth. Ymhlith yr enghreifftiau nodedig mae arfau ac arfwisgoedd, amrywiaeth o gelf gain a phortreadau, a mymi a Sarcophagus 3,000 mlwydd oed o'r Aifft.

Mae'r gerddi yn ymestyn dros rhyw wyth erw o dir, gan gynnwys y parterre ffurfiol, lawntiau llyfnion a'r gerddi pleser helaeth. Adenillwyd ardal Llwybr y Coetir yn gynnar yn y 2000au. Mae'r tiroedd yn gartref i ddwsinau o rywogaethau o adar, amffibiaid a mamaliaid.

Mae Plas Bodrhyddan ar agor i'r cyhoedd Rhwng 14:00-17:00; Dydd Mawrth a Dydd Iau, Mehefin-Medi.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth