
Pen Dyserth o'r Dyserth i ffordd Prestatyn, ar hyd yr hen reilffordd 
Gellir gweld Pont Rhif 8 yn y pellter 
Pont Rhif 8 wedi'i chuddio gan lystyfiant 
Pont Rhif 8
Yn y 1990au trawsnewidiwyd yr hen reilffordd yn llwybr troed a llwybr beicio sy'n rhedeg heibio Gallt Melyd i Brestatyn.
Y bont gyntaf (o ben Ffordd Trelawnyd) yw Pont Rhif 8. Adeiladwyd hon tua 1869 ac efallai ei bod ar gyfer traffig troliau o bwll tua 150m i'r gogledd-ddwyrain. Mae wedi'i rhestru'n radd 2 ond nid yw'n gysylltiedig â'r rhwydwaith ffyrdd.

Tynnwyd gorsaf Gallt Melyd flynyddoedd lawer yn ôl ond mae’r hen dŷ injan wedi’i ddatblygu’n “Y Shed” - canolfan gyda chaffi a siop, ag arddangosfa hanes ryngweithiol. Mae hefyd yn cynnig lleoedd gweithio creadigol ac ardal arddangos i fusnesau a chrefftwyr lleol. Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Sul.