Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Rheilffordd

Ym 1869 agorodd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin linell gangen o Brestatyn i Ddiserth i wasanaethu'r mwyngloddiau yn Nhalargoch a chwareli Gallt Melyd a Diserth.

Yn dilyn blynyddoedd o bwysau gan breswylwyr ar hyd y lein cychwynnwyd gwasanaeth teithwyr ym 1905, ar ôl adeiladu arosfeydd a gorsafoedd ychwanegol. Dewiswyd y llwybr ar gyfer rheilgar ysgafn cyntaf un LNWR pan ddechreuodd y gwasanaeth ar Awst 26ain 1905.

Ar y dechrau, roedd y trên yn llwyddiannus iawn, ac anwybyddwyd yr amserlen yn aml, gyda threnau'n rhedeg yn ôl ac ymlaen mor aml â phosibl. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf o weithredu roedd bron i 30,000 o deithwyr wedi'u cofnodi. Ym 1905 dim ond tua 2,800 o bobl oedd poblogaeth Diserth, Gallt Melyd a Phrestatyn i gyd!

Erbyn 1930 roedd y gwasanaeth teithwyr wedi cau, yn bennaf oherwydd cystadleuaeth gan wasanaethau coetsys a bysiau.

Yn gynnar yn yr 1980au tynnwyd y trac, ac mae safle Gorsaf Diserth bellach wedi'i ddefnyddio ar gyfer unedau tai a diwydiant.

Tapiwch yma i gael mwy o wybodaeth