Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bryn y Felin

Bryn-y-Felin, a elwir hefyd yn Y Bryn

Ar un adeg roedd yr ardal hon yn lleoliad ar gyfer becws, lladd-dy a Gorsaf Heddlu.

Pan oedd y popty yn barod yn y tŷ pobi - “Mount View” erbyn hyn - byddai biwgl yn cael ei seinio i adael i bobl wybod y gallent ddod â'u toes eu hunain i'w bobi.
“Bryn Estyn”, a adeiladwyd ym 1902, oedd y lladd-dy a'r siop gig.
“Graystones”, ychydig lathenni i ffwrdd, oedd Gorsaf Heddlu'r pentref. Tan yn ddiweddar roedd dwy gell carchar yno.

O Bryn-y-Felin mae llwybr troed yn arwain i lawr ar draws y nant uwchben y rhaeadr ac ymlaen tuag at Lôn Carreg Heilin, gan basio llwybr arall sy'n arwain i lawr at droed y rhaeadr.