
Siop Elusen NSPCC yn Thomas Avenue
Mae gan NSPCC Cymru sawl cangen codi arian, sy'n cynnwys sawl ardal. Mae Diserth yn un ardal o gangen Sir y Fflint a Sir Ddinbych ac mae'n hollbwysig gan ei bod yn codi dros 75% o gyfanswm yr arian a godir bob blwyddyn.
Mae Diserth yn unigryw gan fod gennym siop y daw'r rhan fwyaf o'n gwaith codi arian ohoni, ond nid felly y bu hi erioed. Mae pwyllgor codi arian Diserth wedi bod ar waith ers Tachwedd 1928.
Yn y dyddiau cynnar, cynhaliwyd digwyddiadau codi arian, fodd bynnag, mabwysiadwyd y syniad siop 'pop-up', gan ddefnyddio adeiladau gwag i werthu nwyddau.
Yna yn 2003, sefydlwyd siop elusen barhaol yn y Stryd Fawr. Daeth hwn yn ogof Aladdin go iawn ond, a ninnau angen mwy o le, ym Mehefin 2018 fe symudon ni i'r lleoliad presennol yn Thomas Avenue.
Mae'r siop yn cael ei staffio yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr sy'n gwerthu nwyddau a roddwyd.
Yr amseroedd agor yw: Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00 i 16.00 a dydd Sadwrn 10.00 i 15.00