Roedd y pentref yn gwbl ddibynnol ar y ffynnon am ddŵr i'w yfed ac i olchi.
Deuai ffermwyr at y ffynnon hefyd i lenwi casgenni mawr i fynd â nhw i'r caeau ar gyfer y gwartheg. Tra bod y ffynnon yn cael ei defnyddio, ni chofnodwyd erioed unrhyw gwynion am brinder dŵr. Yn ddiweddarach caewyd y ffynnon a chodwyd pwmp.

