Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ysgol VA Trelawnyd

O ganlyniad, roedd y Llys Canghellor wedi dyfarnu ym 1843 a 1852 y dylai'r teulu Mostyn, yn lle'r ôl-ddyledion, gyflwyno i'r elusen un erw o dir addas fel safle ysgol a dylent ddarparu a chario calch, pren a cherrig gwerth £500 i'r safle i adeiladu ysgol newydd. Cynyddwyd y pridiant tir i £80 y flwyddyn er bod y teulu Mostyn yn cael gosod y tâl ar dir Fferm Tre Abbot yn lle hen ystâd Wynne.
Cwblhawyd yr ysgol o'r diwedd ym 1860 a'r prifathro cyntaf oedd John Nightingale. Yn wreiddiol roedd yr ysgol ar gyfer bechgyn yn unig ond bu deiseb i'r Esgob ym 1861 i gael derbyn merched a chaniatawyd hyn.