
Plas yn Dre 
Plas yn Dre
Mae Plas yn Dre yn dal i sefyll yn falch ac yn amlwg ar y stryd. Hwn oedd yr adeilad lle sefydlodd John Wynne yr Ysgol Ramadeg ac y sefydlodd elusen ar ei chyfer.
Roedd yr adeilad yn ffurfio ysgol a llety ar wahân ar gyfer yr ysgol feistr ac isathro. Gosododd Wynne bridiant tir ar ei eiddo ei hun o £40 y flwyddyn i dalu'r ysgol feistr a'r isathro ac i ddarparu £1 y flwyddyn i bob un o'r deuddeg disgybl tlawd oedd yn gwisgo cotiau lliain gwyn. Roedd yr ysgol feistr i ddysgu ugain o fechgyn o'r plwyf yn rhad ac am ddim ac un o bob un o'r saith plwyf cyfagos. Y prifathro cyntaf oedd Mr Turner, a benodwyd yn y 1690au, ym 1713 roedd Thomas Perrat yn brifathro ond nid oes cofnod o bwy a'i olynodd. Bu farw John Wynne ym 1712 ond nodwyd holl fanylion yr elusen yn ei ewyllys.
Oherwydd i deulu Mostyn wrthod talu'r pridiannau ar y benthyciadau a oedd gynt yn ystâd John Wynne, caeodd ysgol Wynne yn y pentref ac aeth hen adeilad yr ysgol yn rhy adfeiliedig i'w ddefnyddio fel ysgol.