
Mae'r wlad o amgylch Llanasa, Gwaenysgor a Threlawynd yn llawn bywyd gwyllt.
Mae'r priddoedd calchfaen tenau yn berffaith ar gyfer blodau gwyllt na allant gystadlu mewn priddoedd cyfoethocach tra bod hen chwareli ac odynau yn cynnal cennau lliwgar, rhedyn bach, pryfetach a mamaliaid bach.
Mae ffermdir tonnog braf gyda chymysgedd o wrychoedd a waliau cerrig sych yn darparu cartrefi i bryfetach, adar a mamaliaid bach sydd yn eu tro yn ysglyfaeth i dylluanod, bwncathod a llwynogod.
Mae coetiroedd yn garped o flodau'r gwynt a chlychau'r gog yn y gwanwyn tra bod coed cerddin a'r ferywen brin yn tyfu ar y llethrau o dan lwybr Clawdd Offa.