Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ystad Golden Grove

Mae Golden Grove, maenordy cain o oes Elisabeth, yn dyddio o 1578.

Mae Ystâd Golden Grove yn ymestyn dros 1000 erw. Mae'r ystâd wedi cael ei rheoli ar gyfer hela adar ers blynyddoedd lawer ac mae saethu yn dal i ddigwydd unwaith yr wythnos yn ystod tymor y gaeaf.

Mae ffesant, hwyaden a chyffylog yn cael eu saethu. Mae'r ffesantod yn cael eu magu'n arbennig tra bod nifer fawr o gyffylog yn cyrraedd o Ewrop i dreulio'r gaeaf yma.