Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hanes Hir

Ar un adeg roedd yr ardal hon yn rhan o deyrnas goll gogledd Tegeingl.

Cafwyd hyd i esgyrn buail, ceirw, elc a rhinoseros gwlanog o'r oes iâ ddiwethaf mewn ogof ger Gwaenysgor tra bod pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 5,000 o flynyddoedd. Mae'r ardal yng nghysgod Y Gop uwchben pentref Trelawnyd, yr ail dwmpath mwyaf o wneuthuriad dyn ym Mhrydain.

Mae gwaith cloddio yn awgrymu bod dros 1000 o bobl wedi byw mewn pentref ar y grib uwchben Gwaenysgor yn edrych dros Prestatyn. Roedd y ffyrdd cribog yn bwysig ar gyfer cadw gwyliadwriaeth dros yr aber rhag ofn goresgyniad.

Gerllaw mae St Elmo, twmpath claddu o'r Oes Efydd gyda ffos o'i amgylch, sy'n brin yn yr ardal hon. Mae yna lawer o garneddau yn yr ardal, sy'n awgrymu bod llawer iawn o weithgaredd yn yr oes efydd. I'r de o'r Fownog mae yna dwmpath claddu yr oedd y bobl leol yn ei ofni gan fod straeon am ellyll direidus yn byw o dan garreg.

Mae Golden Grove yn ymddangos yn Llyfr Domesday fel 'Ulvesgrave', o bosib yn golygu Llwyn y Blaidd, 'Wolves Grove'. Mae llawer o ffermdai'r ardal yn dyddio'n ôl i'r 1600au ond yn aml yn disodli anheddau canoloesol.