Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Dôl y Coroni

Dôl y Coroni

Mae Dôl y Coroni Crefft y Bont yn cael ei adfer i trwy broses o lyfnu, hadu, rolio, torri gwair a phori. Yn gyntaf, mae hadau yn cael eu cynaeafu o weddillion dôl gorlifdir tua 4km i ffwrdd yn Old Pulford Brook. Ar ôl llyfnu, mae'r hadau'n cael eu lledaenu ar draws y ddôl ac yna caiff ei rolio i sicrhau cysylltiad hadau-pridd da. Trwy dorri gwair yn yr haf a defaid yn pori yn y gaeaf, bydd y safle yn dychwelyd i laswelltir dôl gorlifdir naturiol, gyda phlanhigion fel Bwrned Mawr, Cynffon y Llygoden, Ffenigl yr Hwch, Crydwellt a Llygad-llo Mawr yn arwydd o hynny.

Ewch i gerdyn Dôl y Coroni sy'n gysylltiedig â'r Bont am fwy o wybodaeth.