Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bywyd gwyllt ar y Ddyfrdwy

Gwrando

Mae Jonny Hulson o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn rhoi cipolwg inni i'r gweision neidr clwbgwt cyffredin a pham fod y rhan hon o Afon Dyfrdwy mor bwysig iddynt.

Dim ond ar ambell afon araf ei llif yng Nghymru a Lloegr y ceir y gwas neidr Clwbgwt Cyffredin (Gomphus vulgatissimus), ac er yr enw nid yw’n gyffredin o gwbl! Rhestrir y Clwbgwt fel un Bron Dan Fygythiad ar restr Coch gweision y neidr y DU ac mae llygredd, colli coedlannau ar y glannau a charthu afonydd yn anystyriol i gyd yn effeithio arno. Mae glannau coediog a doleniadau lleidiog Afon Dyfrdwy ger Holt yn gartref i un o boblogaethau mwyaf gwas neidr Clwbgwt Prydain, a gallwch ein helpu i gadw golwg ar y pryfyn rhyfeddol hwn drwy anfon eich lluniau (gorau oll gyda chyfeirnod grid) i Gymdeithas Gwas Neidr Prydain www.british-dragonflies.org.uk
Mae larfâu’r Clwbgwt yn tyrchu i mewn i’r llaid, yn chwilota am bryfetach llai ar wely’r afon. Wedi 3 – 5 mlynedd maent yn dod i’r wyneb ar y glannau fel oedolion ac yna’n hedfan i frig y coed a phrin y gwelir hwy wedyn. Os ydych yn cerdded ar hyd glannau’r afon yn Mai neu Fehefin, efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld eu hymddangosiad ar y cyd, sy’n digwydd pan fo’r dydd yn hwyhau a thymheredd y dŵr yn codi.
Mae’n ddigon hawdd adnabod y Clwbgwt gyda’i abdomen siap clwb, marciau du a melyn llachar, ac yn wahanol i weision y neidr Prydeinig eraill mae‘r llygaid wedi’w gwahanu ac nid ydynt yn cwrdd ar dop y pen. Hefyd mae gan y gwryw hicyn neilltuol ar du mewn cornel waelod yr adennydd ôl – pa ryw ydych chi’n meddwl yw’r Clwbgwt wrth eich ymyl?

Yr aethnen ddu yw un o’r coedydd llydanddail sydd mewn mwyaf o berygl ym Mhrydain. Ei chynefin naturiol oedd coedlannau’r gorlifdiroedd oedd ar hyd glannau Afon Dyfrdwy cyn y 17g. Mae rhan fwyaf o’r cynefin hwn wedi ei golli i drefoli, tirddraeniad a chamlesu afonydd ond mae mesurau cadwraeth penodol gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn helpu adfer y rhywogaeth drwy blannu coedydd gwryw a benyw ar hyd glannau’r afon. Mewn blynyddoedd i ddod, y gobaith yw y bydd aethnenni du ifanc yn aildyfu, gan greu cynefinoedd coediog newydd i’r gwas neidr Clwbgwt Cyffredin.