Yn y sain, mae Cynthia yn dweud wrthym am nodweddion daearegol arbennig Holt.
Erbyn 18,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y tir wedi symud i'r gogledd a chafodd ei ddal mewn Oes Iâ. Gorchuddiwyd Basn Swydd Gaer gyda rhew o fryniau Cymru a Môr Iwerddon i'r gogledd. Erbyn 12,000 o flynyddoedd yn ôl mae'r iâ wedi toddi gan adael Afon Dyfrdwy sy'n llifo i'r gogledd i Fôr Iwerddon gan adael gwaddodion llifwaddadol yn ei gorlifdir. Roedd maint y dŵr tawdd mor sylweddol fel ei fod wedi cerfio ceunant allan o'r creigwely tywodfaen Triasig gymharol feddal ac wedi hynny roedd y pwynt pontio cul ond bas ar draws yr afon yn nodi lleoliad Holt a Farndon heddiw.
Wrth i chi gerdded ar hyd glannau Afon Dyfrdwy, byddwch yn sylwi ar sawl ardal gwastad sy'n gyfochrogag ochr yr Afon. Yma, rydych chi'n cerdded ar hyd system teras afon sy'n dangos safleoedd uwch y Ddyfrdwy ers yr Oes Iâ ddiwethaf. Bob tro mae'r afon yn torri drwy'r gorlifdir, mae'n llythrennol yn gadael ei hen lefel yn uchel ac yn sych. Felly, mae'r ardaloedd gwastad neu'r terasau, ar ochrau ac uwchlaw sianel yr afon bresennol. Dyma'r unig le yn lleol y gellir gweld y 2 deras afon yn amlwg; un yn 1.5m uwchlaw'r afon bresennol a'r llall yn 4.5m. Mae hwn hefyd yn safle a warchodir gan RIGS.