
Mae geoamrywiaeth arbennig Holt (a Farndon) yn cael ei gydnabod am i'r ardal gael gwarchodaeth arbennig. Mae 2 Safle o Bwysigrwydd Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) wedi'u lleoli yma a 2 Safle Geoamrywiaeth Bwysig Rhanbarthol (RIGS).
Un ohonynt yw Ffawt Holt-Coddington. Mae Holt yn unigryw yn dangos presenoldeb y nodwedd strwythurol bwysig hon yn y creigiau o gwmpas y Castell. Nid oes unrhyw dystiolaeth ddaearegol o'r nodwedd hon ar ochr Farndon Afon Dyfrdwy, ond gallwch weld ei bresenoldeb yn y tirlun. Mae'r clogwyni gyferbyn â safle'r Castell bellach yn 2.5 milltir ymhellach i'r dwyrain wrth i'r tir godi tuag at y Cock O'Barton. Mae'r symudiad hwn wedi digwydd dros y 250 miliwn o flynyddoedd diwethaf ac mae'n parhau i symud yn araf i'r dwyrain hyd heddiw, gydag ambell ddaeargryn bach cyfarwydd!