
Y Trysorlys Brenhinol
Cafodd y Brenin Richard II deyrnasiad cythryblus. Cafodd ei goroni yn 1377 pan oedd ond yn 10 oed a bu gwrthryfeloedd y gwerinwyr a'r aflonyddwch barwnol yn fwrn arno nes iddo gael ei ddiorseddu yn 1399. Fe gafodd y Brenin y castell wedi dienyddio 4ydd Iarll Arundel ym 1397. Ymddengys fod Richard wedi aros yn y castell sawl gwaith a chomisiynodd waith adeiladu gan Robert Kyng, saer maen, a Stephen Wodesham, saer coed, gyda 40 o ddynion medrus o ddiwedd Gorffennaf 1398. Ni wyddys beth oeddynt yn ei wneud ond mae un theori yn awgrymu ei fod yn cryfhau'r castell ymhellach trwy ychwanegu fflodiart gaerog o'r afon gyfagos. Cefnogir y ddamcaniaeth hon gan y ffaith ei fod wedi trosglwyddo swm enfawr o arian ac eitemau gwerthfawr i'r castell o Dŵr Llundain erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 1399. Roedd yn cynnwys tua 100,000 o farciau aur, a 'llawer iawn o bethau gwerthfawr eraill' - oll wedi'u diogelu gan 750 o 'uchelwyr sir Gaer'.