
Golygfa o'r castell o'r Gogledd yn 1562 
Mae cynllun o'r castell yn 1562, dim ond y cwrt fewnol sydd bellach wedi goroesi.
Un o'r cestyll cryfaf yng Nghymru
Adeiladwyd Castell Holt gan John De Warenne 6ed Iarll Surrey rywbryd ar ôl 1282. Roedd John wedi cael Arglwyddiaethau Brwmffild a Iâl gan y Brenin Edward I yn dilyn trechu Llywelyn ap Gruffydd ac aeth ymlaen i sicrhau ei diroedd trwy adeiladu castell a gosod tref ar lannau'r Ddyfrdwy yn Holt. Roedd y castell yn cynnwys gwrthfur mewnol ac allanol. Roedd y gwrthfur allanol fwy neu lai yn hanner crwn ac yn gartref i lawer o adeiladau gweinyddol yr arglwyddiaeth, gan gynnwys llys. Adeiladwyd y gwrthfur mewnol o ddyluniad pumonglog anarferol, gyda phum tŵr crwn mawr o amgylch cwrt mewnol pum ochrog bychan. Roedd mynedfa fawr ar yr ochr ogleddol, a llew cerfiedig yn coroni'r porth, gyda mynediad i'r gwrthfur allanol trwy dŵr barbican petryal. Dim ond y cwrt mewnol a'r waliau oddi amgylch sy'n dal i oroesi, o leiaf uwchben y ddaear.