Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Syr Thomas Grosvenor

O'r Castell i Chwarel.

Roedd dinistrio'r hyn a fu unwaith yn amddiffynfeydd cryf y castell wedi'r Rhyfel Cartref wedi darparu ffynhonnell ddefnyddiol o dywodfaen chwarel ar gyfer prosiectau adeiladu lleol. Penderfynodd Syr Thomas Grosvenor, y 3ydd Barwn, ar ôl iddo ddychwelyd o'r Daith Fawr, adeiladu'r tŷ sylweddol cyntaf ar safle'r hyn sydd bellach yn Blas Eaton ger Caer. Yn 1675 rhoddwyd caniatâd iddo ddefnyddio'r castell fel ffynhonnell cerrig adeiladu, ac o bosib carreg wedi'i chloddio'n ffres, a gludwyd wedyn am 10 milltir i lawr yr afon i'r safle newydd. Fe'i cynlluniwyd gan William Samwell, ac fe gostiodd yr hyn a elwid yn Blas Samwell dros £1,000 a chafodd ei ddisodli gan Blas Porden yn gynnar yn y 19eg ganrif. Ers hynny mae'r castell wedi parhau i ddarparu ffynhonnell ddefnyddiol o garreg. Diolch byth mae'r safle bellach wedi'i amddiffyn yn gyfreithiol fel Heneb Gofrestredig ac mae'n eiddo i, ac yn cael ei reoli gan, Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.